Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Os ydych yn dechrau meddwl am yrfa newydd, mae'n debyg bod gennych lawer o gwestiynau. Dyma'r atebion i rai ohonynt.
Lle rydym wedi crybwyll sefydliadau a fyddai'n gallu eich cynorthwyo, neu ddweud wrthych am gysylltu â ni, mae'r holl
fanylion sydd eu hangen arnoch yn yr adran Ble i fynd am fwy o gyngor?
1. Oes cyfyngiad oedran?
2. Faint fydd y gost i mi?
3. Ble gaf i wybod am bethau ymarferol fel gofal plant a chredydau treth er mwyn i mi allu hyfforddi a chydbwyso cyfrifoldebau gofal/gwaith?
4. Lle mae'r ganolfan hyfforddi agosaf i mi?
5. A gaf i hyfforddi'n rhan-amser os oes angen i mi barhau i weithio?
6. A fyddaf i'n derbyn cyflog?
7. A ddarperir trafnidiaeth?
8. Pa gymhwyster fyddaf i'n ei dderbyn?
9. Pa gyfleoedd gwaith sydd ar gael ar ôl hyfforddi?
10. Beth yw'r siawns i mi ddod o hyd i waith yn lleol?
11. A fydd yn rhaid i mi symud?
12. Sut brofiad fydd hyn?
13. A allaf siarad â rhywun sydd wedi gwneud hyfforddiant fel hyn yn barod?
14. Faint o amser a gymerir i ennill y cymwysterau?
15. Ai fi fydd yr unig fenyw a sut brofiad fydd hyn?
16. A fyddaf yn gallu gwneud gwaith fel hyn ac a fyddaf yn ddigon cryf?
17. Nid wyf yn gwybod a wyf yn dda gyda phethau technegol.
18. Oes angen unrhyw gymwysterau/sgiliau arbennig cyn i mi wneud cais?
19. Pa fath o gymorth sydd ar gael os y byddaf yn cael unrhyw broblemau o fod yn fenyw mewn amgylchedd llawn dynion?
20. Ble gaf i ragor o wybodaeth am brofiad gwaith?
1. Oes cyfyngiad oedran?
Yn wreiddiol, roedd Prentisiaethau yn Lloegr ar gael i bobl 16-24 oed yn unig, ond mae Prentisiaethau Ieuenctid bellach ar gael i bobl 14-16 oed. Mae ymroddiad hefyd i ddatblygu Prentisiaethau i bobl dros 25 ac mae rhai cynlluniau peilot eisoes ar waith. Nid oes cyfyngiad oedran uchaf ar Brentisiaethau yng Nghymru a'r Alban.
Yn ôl i'r brig
2. Faint fydd y gost i mi?
Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol ac a ydych yn cael eich hyfforddiant drwy brofiad gwaith neu gyflogaeth. Gall cyrsiau rhagflas sy'n eich cyflwyno i yrfa fod yn ddefnyddiol dros ben, ac mae llawer o'r rhain am ddim.
Yn yr Alban, gallai'r arian i dalu am eich hyfforddiant ddod o'r Skillseekers Initiative, neu drwy'ch cwmni menter lleol, felly peidiwch â phoeni, ni fydd rhaid i chi na'ch teulu dalu ffioedd hyfforddi.
Yn ôl i'r brig
3. Ble gaf i wybod am bethau ymarferol fel gofal plant a chredydau treth er mwyn i mi allu hyfforddi a chydbwyso cyfrifoldebau gofal/gwaith?
Mae llawer o sefydliadau yn darparu gwybodaeth am ddim am y materion hyn - cysylltwch â ni am ragor o fanylion.
Yn ôl i'r brig
4. Lle mae'r ganolfan hyfforddi agosaf i mi?
Ewch i'ch Canolfan Cyfarwyddyd Gyrfaoedd leol, cysylltwch â Chyswlltdysgu neu ewch i wefan y Cyngor Dysgu a Sgiliau. Am ragor o wybodaeth am gyrsiau menywod yn unig neu hyfforddiant sydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer anghenion menywod ewch i wefan Rhwydwaith Hyfforddiant Menywod neu Ganolfan Adnoddau'r DU ar gyfer Menywod mewn gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg (SET) neu ffoniwch ein llinell gymorth. Mae galw mawr am leoedd ar gyrsiau yn y diwydiannau hyn, ac mae cryn gystadleuaeth i gael lle, felly brysiwch!
Yn ôl i'r brig
5. A gaf i hyfforddi'n rhan-amser os oes angen i mi barhau i weithio?
Mae llawer o gyrsiau rhagflas a rhagarweiniol yn rhan-amser, a gall colegau addysg bellach hefyd gynnal cyrsiau rhan-amser. Rhan-amser yw pob prentisiaeth.
Yn ôl i'r brig
6. A fyddaf i'n derbyn cyflog?
Os ydych chi ar leoliad gwaith, byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi. Byddwch yn derbyn o leiaf £40 yr wythnos ac efallai y gallech wneud cais am fenthyciad neu grant i gefnogi eich cwrs. Cyflogir y rhan fwyaf o brentisiaid gan fusnesau ac maen nhw'n derbyn cyflog sy'n adlewyrchu eu sgiliau, profiad, oed a gallu. Ar hyn o bryd, mae 75% o gyflogwyr yn talu £70 yr wythnos neu fwy, tipyn yn fwy mewn rhai achosion. Nid yw'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn berthnasol i brentisiaid er bod y Llywodraeth wedi datgan yn ddiweddar y dylai pob prentis cyflogedig dderbyn o leiaf £70-£80 yr wythnos.
Yn ôl i'r brig
7. A ddarperir trafnidiaeth?
Mae hyn yn dibynnu ar y math o hyfforddiant. Efallai y bydd rhai cyrsiau rhagarweiniol yn cynnig costau teithio, ac efallai fod cynlluniau yn agos i'ch cartref.
Yn ôl i'r brig
8. Pa gymhwyster fyddaf i'n ei dderbyn?
Gyda Phrentisiaeth, byddwch yn derbyn pecyn o gymwysterau - Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol, tystysgrif dechnegol fel Diploma Cenedlaethol BTEC neu Ddyfarniad Dilyniant City & Guilds a chymwysterau Sgiliau Allweddol. Mae'r Brentisiaeth yn arwain at NVQ Lefel 2 ac mae'r Brentisiaeth Uwch yn arwain at NVQ Lefel 3. Yn yr Alban, mae'r cymwysterau'n cynnwys SVQ Lefel 3 ac uwch a sgiliau craidd, sy'n gyfwerth â'r Sgiliau Allweddol yng Nghymru a Lloegr. Gall y cymwysterau a ddyfernir i chi yn sgîl Prentisiaeth Uwch eich cynorthwyo i gael mynediad i addysg uwch. Mae cyrsiau eraill yn cynnig cymwysterau sy'n benodol i'r pwnc.
Yn ôl i'r brig
9. Pa gyfleoedd gwaith sydd ar gael ar ôl hyfforddi?
Mae prinder sgiliau ym meysydd adeiladu, peirianneg a thechnoleg gwybodaeth mewn llawer o ardaloedd yn y DU. Mae'r Llywodraeth a chyflogwyr yn awyddus i ddenu mwy o bobl i'r gyrfaoedd hyn. Hefyd, unwaith y byddwch yn gymwys ac wedi derbyn hyfforddiant llawn, gallwch ddechrau ystyried hunan-gyflogaeth. Cysylltwch â chyflogwr neu sefydliad cefnogi yn eich ardal i weld beth sydd ar gael.
Yn ôl i'r brig
10. Beth yw'r siawns i mi ddod o hyd i waith yn lleol?
Yn dibynnu ar lle'r ydych yn byw, mae sefydliadau sy'n gallu eich cynorthwyo i ddod o hyd i rywle lleol - mae cyflogwyr mewn sawl ardal o'r wlad yn awyddus i ddod o hyd i hyfforddeion.
Yn ôl i'r brig
11. A fydd yn rhaid i mi symud?
Oherwydd y prinder sgiliau drwy'r wlad, mae swyddi ar gael ym mhobman bron iawn. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai swyddi cyflog uchel ac arbenigol wedi'u lleoli mewn rhannau penodol o'r wlad neu dramor. Er enghraifft, yn y diwydiant peirianneg adeiladu gallech fod yn gweithio ar orsaf bwer. Neu os ydych am weithio i wneuthurwr ceir mawr, byddai angen i chi weithio lle bynnag y maent wedi'u lleoli.
Yn ôl i'r brig
12. Sut brofiad fydd hyn?
Mae cyfleoedd di-ri yn y gyrfaoedd hyn. Gan fod y gwaith mor amrywiol, mae'n amhosibl disgrifio'r holl bosibiliadau. Ond maent i gyd yn yrfaoedd lle byddwch yn datrys problemau, gweld canlyniadau eich gwaith, cynorthwyo pobl, gweithio'n rhan o dîm, cyfrannu'n greadigol ac ennill cyflog da. Felly os mai dyma'r math o yrfa a fyddai'n addas ar eich cyfer chi, meddyliwch am y peth o ddifrif.
Yn ôl i'r brig
13. A allaf siarad â rhywun sydd wedi gwneud hyfforddiant fel hyn yn barod?
Gall y sefydliadau sydd wedi'u rhestru yn yr adran 'Ble gaf i ragor o gyngor?' eich cynorthwyo i gysylltu â menywod yn y swyddi hyn. Yn ogystal, os ydych yn penderfynu gweithio yn y meysydd hyn, gallwch siarad â'ch mentor a fydd yn eich cynorthwyo drwy eich hyfforddiant. Er enghraifft, mae gan CITB - ConstructionSkills rwydwaith o dimau gyrfaoedd ac addysg ledled y DU sy'n cynorthwyo menywod gyda gwybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiant.
Yn ôl i'r brig
14. Faint o amser a gymerir i ennill y cymwysterau?
Mae hyn yn dibynnu ar y sector y byddwch yn rhan ohono, ond mae'n cymryd 18 mis i gyflawni Prentisiaeth a dwy flynedd i gyflawni Prentisiaeth Uwch fel arfer. Os ydych yn penderfynu mynd ymhellach, gallwch gario ymlaen ac ennill cymwysterau proffesiynol - neu gallwch benderfynu bod yn hunan-gyflogedig.
Yn ôl i'r brig
15. Ai fi fydd yr unig fenyw a sut brofiad fydd hyn?
Nid oes llawer o fenywod yn y meysydd hyn ar hyn o bryd, ond mae'r nifer yn cynyddu'n raddol. Mae'r menywod sy'n gweithio yn y meysydd hyn yn credu fod y gwaith yn rhoi boddhad a phleser. Eto, mae sefydliadau a fydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â menywod eraill yn y meysydd hyn. Gall fod yn brofiad unig os mai chi yw'r unig fenyw, ond mae rhwydweithiau ar gael i ddod o hyd i gyflogwyr addas sy'n groesawgar ac yn gefnogol, ac sydd â menywod yn gweithio ynddynt yn barod.
Yn ôl i'r brig
16. A fyddaf yn gallu gwneud gwaith fel hyn ac a fyddaf yn ddigon cryf?
Fel unrhyw yrfa, ni fyddwch yn gallu gwneud popeth pan fyddwch yn cychwyn. Bydd yr hyfforddiant yn dysgu i chi sut i gyflawni'r tasgau mewn gwahanol swyddi, gan gynnwys sut y dylid codi pethau a sut y dylid symud eitemau trwm. Cofiwch fod swyddi fel nyrsio a gofalu yn cynnwys codi hefyd a byddwch yn derbyn hyfforddiant iechyd a diogelwch fel y byddech yn y swyddi hynny - beth bynnag eich rhyw.
Yn ôl i'r brig
17. Nid wyf yn gwybod a wyf yn dda gyda phethau technegol.
Mae'n debyg fod hyn oherwydd nad ydych yn sylweddoli faint o dechnoleg rydych chi'n ei defnyddio drwy'r amser. O bryd i'w gilydd gall profiad gwael droi pobl yn erbyn math o waith, ond mae'n gwneud synnwyr ar ôl dychwelyd ato'n ddiweddarach. Bydd cwrs rhagflas yn eich cyflwyno i'r gyrfaoedd hyn a rhoi'r cyfle i chi gael blas iawn arnynt mewn amgylchedd cyfeillgar. Mae'r sgiliau sydd eu hangen yn ymwneud â rheoli tasgau a datrys problemau, sy'n brofiad sydd gennych yn barod o swyddi blaenorol hollol ddigyswllt o bosib.
Yn ôl i'r brig
18. Oes angen unrhyw gymwysterau/sgiliau arbennig cyn i mi wneud cais?
Mae'n dibynnu ar y swydd. Gallai TGAU Saesneg a Mathemateg fod yn ddefnyddiol, neu'r Radd Safonol gyfwerth yn yr Alban, ond weithiau mae yna ffyrdd eraill o gael lle ar gyrsiau.
Yn ôl i'r brig
19. Pa fath o gymorth sydd ar gael os y byddaf yn cael unrhyw broblemau o fod yn fenyw mewn amgylchedd llawn dynion?
Mae gennych hawl cyfreithiol i beidio â chael triniaeth anghyfartal oherwydd eich rhyw. Mae gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal (CCC) linell gymorth gyfrinachol i chi gael cyngor.
Yn ôl i'r brig
20. Ble gaf i ragor o wybodaeth am brofiad gwaith?
Mae llawer o gyrsiau bellach yn cynnig profiad gwaith fel rhan o'u hyfforddiant. Cysylltwch â Chanolfan Adnoddau'r DU ar gyfer Menywod mewn gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg (SET) am arweiniad a chysylltiadau posib i'ch cynorthwyo i ddod o hyd i leoliad gwaith.
Yn ôl i'r brig
|