*
*

"Ond sylweddolais fy mod yn dda yn y gwaith a bod gormod o gyfleoedd yn y maes hwn i boeni am fethu!"


*

Peirianneg - Peiriannydd Deunyddiau

Josephine Kepicova
Peiriannydd Deunyddiau

Gartref yn Slofacia mae hyfforddiant ffurfiol yn gorffen yn 14 oed ac anfonir pobl ifanc ar addysg/hyfforddiant gorfodol mewn maes lle mae lleoedd ar gael neu lle mae angen cenedlaethol. Dewisais astudio peirianneg a thechnoleg am dair blynedd.

Yr apêl i mi oedd dysgu sut mae pethau'n gweithio ac y byddwn yn dysgu'n gyson. Cyflawnais gwrs Ymarferol Cenedlaethol BTEC mewn peirianneg deunyddiau. Roeddwn i'n bryderus i ddechrau ac yn credu na fyddwn yn gallu ei wneud, ond sylweddolais fy mod yn dda yn y gwaith a bod gormod o gyfleoedd yn y maes hwn i boeni am fethu!

Rwy'n gwirioni ar yr her sy'n rhan o'r swydd. Mae rhywbeth gwahanol a chyffrous yn digwydd bob dydd. Mae'n deimlad gwych cynllunio prosiect a gweld popeth yn dod at ei gilydd yn y diwedd. Mae'r gwaith yn ddiddorol drwy'r amser ac yn rhywbeth rwyf yn hoffi ei wneud. Rwy'n gwneud gwahaniaeth ac mae digon o gyfle i deithio.

Os ydych awydd newid, does dim rheswm i boeni. O leiaf gallwch ddefnyddio'r cymwysterau a gawsoch yn y coleg, sy'n fwy nag y gellir ei ddweud am lawer o swyddi eraill.

 

Logos: Equal Opportunities Commission, Jive Partners, European Union Social Fund

 

 

 Cysylltu â ni