"Mae manteision i fod yn fenyw yn y maes hwn, oherwydd eich bod yn sefyll allan. Felly mae pawb yn gwybod amdanoch ac am eich cyflawniadau hefyd!"
|
 |
Peirianneg - Peiriannydd Mecanyddol
Ifzal Parveen
Peiriannydd Mecanyddol, Federal Modul
Ar ôl i mi orffen fy Lefel A, penderfynais wneud cais am Brentisiaeth a welais mewn hysbyseb. Treuliais dri diwrnod agored yn yr adran beirianneg ym Mhrifysgol Bradford a mwynhau'r profiad yn fawr.
Mae Prentisiaeth yn ddewis da'n ariannol oherwydd nad oes raid i chi gymryd benthyciadau, sy'n fantais dros fyfyrwyr sy'n gwneud gradd.
Mantais arall yw y byddwch yn cael eich hyfforddi mewn maes penodol a chael llawer o brofiad. Rydych hefyd yn saff o gael swydd ar y
diwedd, mewn amgylchedd sy'n gyfarwydd i chi.
Rwy'n gwirioni ar beirianneg oherwydd ei fod i gyd yn waith prosiect. Rwy'n gweithio'n barhaus tuag at nod clir ac oherwydd y
cynnydd ym maes technoleg, rwy'n dysgu pethau newydd bob dydd. Wedyn gallaf ddefnyddio'r hyn rwyf wedi'i ddysgu mewn
sefyllfaoedd ymarferol.
Mae manteision i fod yn fenyw yn y maes hwn, oherwydd eich bod yn sefyll allan. Felly mae pawb yn gwybod amdanoch ac am eich
cyflawniadau hefyd! Bonws arall yw'r cyflog da a bod digonedd o swyddi ar gael.
|