*
*

"Rydw i'n edrych ymlaen at gael mynd i'r gwaith bob dydd, ac mae'n rhaid i mi feddwl ar fy nhraed drwy'r amser - does dim amser i syrffedu"



"Ni ddylai'r ffaith mai dynion yw mwyafrif y gweithwyr yn y diwydiant ddigalonni menywod sy'n ystyried gyrfa yn y maes. Mae pawb wedi fy nghefnogi. Allwn i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall"

*

Peirianneg - Peiriannydd awyr

Grace Jones
IIE (Sefydliad Corfforedig y Peirianwyr)
Peirianwraig Ifanc y Flwyddyn
Peiriannydd awyr, Bae Systems

Ymunais â British Aerospace fel prentis yn 16 oed. Cefais gefnogaeth ganddynt drwy ddiwrnodau astudio, er mwyn i mi allu ennill NVQ lefel 3, BTEC ac yna HNC mewn peirianneg drydanol.

Rwyf bellach yn rhan o dīm sy'n profi'r awyrennau. Mae hyn yn golygu dadansoddi data cymhleth a chymryd rhan mewn ffugiadau hedfan amser real. Yr unig reswm yr wyf yma mewn gwirionedd yw am fod yr athro wedi gofyn i mi a fyddwn yn hoffi ei wneud fel profiad gwaith, ac er nad oeddwn yn gwybod beth oedd hyn yn ei olygu, penderfynais roi cynnig arni.

Mae'r swydd hon yn gweddu i'm personoliaeth chwilfrydig oherwydd eich bod yn cael dysgu am bob math o dechnoleg a sut mae pethau'n gweithio. Rwy'n edrych ymlaen at gael mynd i'r gwaith bob dydd, ac mae'n rhaid i mi feddwl ar fy nhraed drwy'r amser - does dim amser i syrffedu.

Rwyf hefyd wedi gallu cynnal fy hun ers i mi fod yn 16 oed ac rwyf wedi prynu ty a char yn gynharach nag y byddwn wedi gallu ei wneud mewn galwedigaeth arall.

Hefyd, rwyf wedi cael sawl cyfle i deithio a phrofi awyrennau mewn lleoedd fel yr Almaen, yr Eidal a Sbaen. Nid oes llawer o gyfle i gyfarfod pobl o bedwar ban byd mewn swyddi eraill.

Ni ddylai'r ffaith mai dynion yw mwyafrif y gweithwyr yn y diwydiant ddigalonni menywod sy'n ystyried gyrfa yn y maes. Mae pawb wedi fy nghefnogi. Allwn i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall.

 

Logos: Equal Opportunities Commission, Jive Partners, European Union Social Fund

 

 

 Cysylltu â ni