"Ni fydda i byth yn diflasu oherwydd bod rhywbeth gwahanol i'w wneud bob dydd. Mae'n bleser gweld canlyniadau'r gwaith caled a'r wên ar wyneb cleientiaid"
"Mae'n debyg y byddech chi'n cael eich synnu faint o fenywod sy'n gwneud ac yn mwynhau'r gwaith, fel minnau" |
 |
Crefftau sgiliedig - Peintio a phapuro
Lisa Borah, Peintiwr a Phapurwr, Cwmni Adeiladu Durkan
Roeddwn i wedi bod eisiau gwneud rhywbeth creadigol, ymarferol a phleserus erioed. Penderfynais ymuno â dosbarth peintio a phapuro i fenywod. Ar ôl gadael y coleg, ymunais â BMW ar brofiad gwaith am 13 wythnos ac rwy'n beintiwr a phapurwr bellach.
Roedd fy newis gyrfa yn synnu llawer o bobl, oherwydd ei fod yn cael ei ystyried fwy fel gwaith dyn a rhywbeth y mae menywod yn ei wneud fel hobi. Yn wir, mae'n well gan lawer o gleientiaid ddefnyddio menyw oherwydd eu bod yn dueddol o lanhau a thwtio ar ôl gorffen y gwaith! Hefyd, mae cleientiaid hyn weithiau'n teimlo'n hapusach gyda menywod.
Ni fydda i byth yn diflasu oherwydd bod rhywbeth gwahanol i'w wneud bob dydd. Mae'n bleser gweld canlyniadau'r gwaith caled a'r wên ar wyneb cleientiaid. Hefyd, mae gen i sgiliau y gallaf eu defnyddio yn unrhyw le ac mae cyfle i ddechrau dysgu a hyfforddi.
Os oes unrhyw un yn ystyried hyn, ewch amdani. Mae'n debyg y byddech chi'n cael eich synnu faint o fenywod sy'n gwneud ac yn mwynhau'r gwaith, fel minnau.
|