*
*

"Mae fy swydd bob amser yn golygu sgwrs wrth gyfarfod pobl! Rwy'n gwirioni ar yr elfen ymarferol a'ch bod yn gyfrifol am brosiectau o'r cychwyn i'r diwedd, tra'n darganfod sut mae pethau'n gweithio"

 


"Ni chefais unrhyw broblemau wrth weithio mewn amgylchedd dynion"

*

Crefftau sgiliedig - Gwaith Coed

Helen Welch
Saer hunan-gyflogedig

Pan oeddwn i yng nghanol y lefelau A, roeddwn i'n syrffedu ar yr elfen ddamcaniaethol ac nid oedd gen i lawer o ddiddordeb yn y cwrs. Penderfynais roi cynnig ar gynllun gwaith coed cymunedol. Cefais flas ar y cwrs ac o fewn blwyddyn cefais brentisiaeth gwaith coed gyda Chyngor Camden.

Mae fy swydd bob amser yn golygu sgwrs wrth gyfarfod pobl! Rwy'n gwirioni ar yr elfen ymarferol a'ch bod yn gyfrifol am brosiectau o'r cychwyn i'r diwedd, tra'n darganfod sut mae pethau'n gweithio.

Ni chefais unrhyw broblemau wrth weithio mewn amgylchedd dynion. Yn wir, mae wedi rhoi llawer o hyder i mi mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Mae'r grefft hon yn golygu bod gennych y cyfle i weithio'n hunan-gyflogedig yn nes ymlaen, fel minnau. Felly gallaf drefnu fy oriau i fod yn addas i mi. Nid wyf yn hoffi cael pobl yn dweud wrthyf beth i'w wneud, ac rwy'n hoffi rheoli'r hyn yr wyf yn ei wneud, felly mae'n ddelfrydol i mi.

Mae'r cyflog yn dda, felly gallaf gynnal fy hun tra'n gwneud gwaith rwy'n ei fwynhau. Mae crefftwyr eraill yn dangos parch ac mae'r teimlad a geir ar ôl cyflawni'r prosiect yn unigryw.

Dylai unrhyw fenyw sy'n ystyried newid ei gyrfa fynd amdani, ac anwybyddu sylwadau negyddol. Rwy'n mwynhau'r gwaith ac yn ei argymell yn fawr i eraill.

 

Logos: Equal Opportunities Commission, Jive Partners, European Union Social Fund

 

 

 Cysylltu â ni