*
*

"Os ydych chi'n ystyried swydd ym maes adeiladu, ewch amdani. Peidiwch â phoeni am sut allai pethau fod. Mae llawer o ddynion yn gwirioni ar y peth ac yn dangos parch"


*

Crefftau sgiliedig - Plymio

Nina Fisher
Plwmwr dan hyfforddiant

Roeddwn i'n arfer edrych ar bobl a oedd yn gweithio mewn diwydiannau gwaith llaw a meddwl y byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny. Roeddwn i'n gwirioni gyda'r syniad o adeiladu ond byth yn gweld menywod yn ei wneud, felly nid oeddwn i'n meddwl bod hynny'n bosib.

Dechreuais weithio yn y diwydiant adwerthu yn 16 oed, oherwydd mai dyna'r gorau o'r ychydig opsiynau a oedd ar gael i mi fel menyw. Ar ôl blynyddoedd mewn swyddi gwerthu ac adwerthu, dechreuais weithio i gwmni cyfryngau, ond roedd hynny'n ddiflas oherwydd nad wyf yn hoffi eistedd i lawr drwy'r amser.

Gwelais hysbyseb yn y papur am gwrs hyfforddi gwaith plymio gyda grwp menywod. Nid yn unig fy mod i'n gwybod y gallwn wneud y gwaith, roeddwn hefyd yn gwybod fod prinder gweithwyr yn y diwydiant.

Mae plymio yn wych oherwydd eich bod yn gorfod meddwl, tra'n gwneud gwaith corfforol. Ni fyddaf byth yn diflasu oherwydd mod i'n dal i ddysgu ac mae pob diwrnod yn wahanol. Rydw i hefyd yn fwy annibynnol oherwydd y cyflog da a'r sicrwydd ariannol. Rydw i'n mwynhau'r swydd yn llawer mwy na'r rhai sydd gan ferched sy'n ffrindiau i mi, a bydd y grefft hon gen i am byth.

Hefyd, ar ôl i chi ennill cymwysterau, gallwch weithio i'ch hun, neu hyfforddi eraill. Er enghraifft, gallwch weithio mewn carchar a helpu'r carcharorion i ddysgu crefft ddefnyddiol, sy'n werth ei wneud.

Os ydych chi'n ystyried swydd ym maes adeiladu, ewch amdani. Peidiwch â phoeni am sut allai pethau fod. Mae llawer o ddynion yn gwirioni ar y peth ac yn dangos parch.

 

Logos: Equal Opportunities Commission, Jive Partners, European Union Social Fund

 

 

 Cysylltu â ni