"Yr amrywiaeth yw'r peth gorau am fy ngwaith. Gallaf drefnu fy niwrnod gan mai fi sy'n rheoli'r llwyth gwaith"
"Rydw i'n cael blas ar y gwaith ac nid oes gen i syniad beth fyddwn i'n ei wneud fel arall. Os ydych chi'n ystyried cael swydd ym maes adeiladu, peidiwch ag ofni - trwy weithio'n galed, byddwch yn llwyddo" |
 |
Adeiladu
Yvonne Solomon Syrfëwr Adeiladu, Prifysgol Nottingham
Roedd gen i ddiddordeb mewn darlunio technegol yn yr ysgol. I ddechrau roeddwn i'n hoffi'r syniad o bensaernïaeth,
ond cefais gyngor gan y cynghorwr gyrfa i ystyried gyrfa fel syrfëwr adeiladu.
Roeddwn i'n hoffi'r syniad o wneud gwaith adnewyddu a gallu gweld fy ngwaith yn gwneud gwahaniaeth.
Gwnes ddiploma mewn Astudiaethau Busnes yn fy ngholeg lleol ar ôl gorffen y TGAU. Arweiniodd fy niddordeb
yn y maes at ddilyn cwrs gradd fel Syrfëwr Adeiladu ym Mhrifysgol Salford. Bellach rwy'n gweithio fel Syrfëwr Adeiladu ym
Mhrifysgol Nottingham, yn gwneud gwaith rheoli prosiect ar neuaddau preswyl. Rwy'n rheoli cyllideb o filiwn o bunnoedd,
ysgrifennu manylebau, gofalu am beirianwyr ac rwy'n gyfrifol am bopeth bron iawn.
Yr amrywiaeth yw'r peth gorau am fy ngwaith. Gallaf drefnu fy niwrnod gan mai fi sy'n rheoli'r llwyth gwaith. Rydw i ar
fynd o hyd ac nid oes amser i ddiflasu.
Mae'n amser da i ymuno â'r diwydiant adeiladu, oherwydd bod galw mawr am bob math o weithwyr. Mae mwy i'r gwaith nag a
welir ar yr wyneb, mae'n fwy na gweithwyr ar safle mewn hetiau caled. Mae cyfle i weithio yn unrhyw le ac mae nifer o elfennau
gwahanol i'r gwaith. O ran adeiladu yn unig, gallwch arbenigo mewn rheoli prosiect, yr ochr gyfreithiol, cadwraeth a llawer o
feysydd eraill.
Hefyd, nid ydych yn ennill cymwysterau mewn un maes ac aros yno. Mae llawer o gyfleoedd hyfforddi. Er enghraifft, rydw i newydd
gwblhau cwrs cynllunio cartref City and Guilds, a allai arwain at bob math o gyfleoedd yn y dyfodol.
Rydw i'n cael blas ar y gwaith ac nid oes gen i syniad beth fyddwn i'n ei wneud fel arall. Os ydych chi'n ystyried cael swydd ym
maes adeiladu, peidiwch ag ofni - trwy weithio'n galed, byddwch yn llwyddo.
|