*
*

"Enillais lawer o hyder yn gwneud rhywbeth lle'r oedd yn rhaid i mi feddwl"

 


"Rydw i mewn sefyllfa wych oherwydd bod gen i arbenigedd, sgiliau a sicrwydd swydd"

*

Technoleg Gwybodaeth

Sarah Warden Smith
Ymgynghorydd TG, IBBD (Ian Brooks Business Development)

Fel rhiant sengl gyda dau blentyn ifanc, penderfynais mai'r ffordd orau o fynd yn ôl i'r byd addysg fyddai dechrau cwrs mynediad. Cysylltais â Gweithdy Menywod Caerdydd a chofrestru ar y cwrs Cyfathrebu a Rhwydwaith. Yn dilyn y cwrs hwn dechreuais weithio ym maes TG.

Roedd y cwrs yn wych - enillais lawer o hyder yn gwneud rhywbeth lle'r oedd yn rhaid i mi feddwl. Roedd popeth yn her - dysgais sut i drwsio cyfrifiaduron a sut i fynd i'r afael â'r ffordd y maent yn gweithio.

Cynorthwyodd y profiad gwaith deufis a oedd yn rhan o'r cwrs i mi ennill hyder. Roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus yn yr amgylchedd gwaith ac roeddwn yn gallu delio â phob tasg a roddwyd i mi.

Mae'r swydd yn wych, oherwydd bod pob diwrnod yn wahanol. Mae'r sicrwydd ariannol yn wych, oherwydd bydd wastad galw am fy sgiliau gan fusnesau ym mhob man a chredaf y byddaf yn gallu gweithio cyhyd ag y dymunaf.

Mae fy nghwmni hefyd yn hyblyg iawn, sy'n rhoi rhyddid i mi fodloni'r holl drefniadau teulu. Gan mai ym maes TG y mae'r gwaith, gallaf weithio o gartref (ar ôl i'r plant noswylio!). Felly mae hyn i gyd yn hynod o gyfleus.

Mae'n broses ddysgu barhaus ac rwy'n dysgu sgiliau newydd drwy'r amser i ddatrys y problemau amrywiol sy'n codi. Rydw i mewn sefyllfa wych oherwydd bod gen i arbenigedd, sgiliau a sicrwydd swydd.

 

Logos: Equal Opportunities Commission, Jive Partners, European Union Social Fund

 

 

 Cysylltu â ni