Builders *

EGLURO'R JARGON

Prentisiaeth
Cynllun hyfforddi ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sy'n cynnwys naill ai swydd a chyflog neu leoliad gwaith gyda lwfans hyfforddi. Arwain at NVQ Lefel 2 a thystysgrif dechnegol.

Prentisiaeth Uwch
Cynllun hyfforddi ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sy'n cynnwys cyflogaeth lawn amser gyda chyflog priodol. Arwain at NVQ Lefel 3 a thystysgrif dechnegol. Gall fod yn gam tuag at y brifysgol.

AB
Addysg Bellach.

TGCh
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Y term diweddaraf ar gyfer disgrifio gwaith sy'n ymwneud â chyfrifiaduron, y rhyngrwyd, systemau ffôn a chyfathrebu electronig.

TG
Technoleg gwybodaeth. Term hyn a ddefnyddiwyd i ddisgrifio gwaith sy'n ymwneud â chyfrifiaduron, argraffyddion a chaledwedd, cyn i'r rhyngrwyd gael ei ddefnyddio cymaint.

JIVE
Partneriaeth o 10 sefydliad yng Nghymru a Lloegr sy'n creu newidiadau i fenywod a merched yn y diwydiannau peirianneg, adeiladu a thechnoleg.

NVQ
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol. Cymhwyster sy'n seiliedig ar Safonau Perfformiad Cenedlaethol, sy'n disgrifio'r hyn y disgwylir i unigolyn cymwys ei wneud mewn swydd benodol.

Gwahanu galwedigaethol
Y crynhoad o fenywod a dynion mewn mathau gwahanol iawn o swyddi.

Stereoteipio ar sail rhyw
Rhagdybio y dylai menywod a dynion gael gwahanol swyddogaethau mewn cymdeithas.

Prinder sgiliau
Mae hyn yn digwydd pan nad oes digon o bobl cymwys (sgiliedig) i lenwi'r swyddi sydd ar gael.

 

Logos: Equal Opportunities Commission, Jive Partners, European Union Social Fund

 

 

 Cysylltu â ni