Builders *

Beth yn union allwn i ei wneud?

Mae adeiladu, technoleg gwybodaeth, crefftau sgiliedig a pheirianneg yn enghreifftiau o'r opsiynau gyrfa sydd gennych. Dyma fwy amdanynt.

Adeiladu

Mae adeiladu yn cynnwys adeiladau (ffatrïoedd, tai, swyddfeydd, ysbytai, ysgolion ac ati) a pheirianneg sifil (ffyrdd, carthffosydd, pontydd, twnneli, rheilffyrdd).

Technolegwyr pensaernïol: sicrhau bod cynlluniau ar bapur yn gweithio'n ymarferol drwy arolygu'r amgylchedd cyfagos, dadansoddi dyluniau, defnyddio rhaglenni CAD (cynllun a gynorthwyir gan gyfrifiadur), trefnu deunyddiau ac archwilio safleoedd adeiladu.

Syrfewyr rheoli adeiladu: sicrhau bod adeiladau'n cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Mae hyn yn cynnwys dyfnder seiliau, cadwraeth egni a sefydlogrwydd strwythurol.

Technegwyr CAD: defnyddio darluniau a gynhyrchir ar gyfrifiadur i baratoi gwybodaeth ar gyfer gwaith adeiladu. Gall hyn gynnwys gweithio ar draws amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys pensaernïaeth, gwasanaethau adeiladu, peirianneg sifil a strwythurol.

Seiri: gwneud a gosod rhannau pren adeiladau a strwythurau eraill, gan gynnwys estyll, ffenestri a drysau.

Syrfewyr siartredig: cydlynu adeiladau masnachol o'r cychwyn i'r diwedd. Mae syrfewyr adeiladu yn cynghori ar y gwaith o gynllunio ac adeiladu adeiladau newydd ac atgyweirio ac adnewyddu rhai presennol. Mae syrfewyr adeiladu yn goruchwylio prosiectau adeiladu, o argaeau i dai newydd.

Rheolwyr adeiladu: bod yn gyfrifol am bobl a chynlluniau i sicrhau bod adeiladau'n cael eu cwblhau'n ddiogel, yn brydlon ac o fewn cyllideb.

Trydanwyr: archwilio, profi a gosod systemau a chyfarpar gwifrau. Bydd y gwaith yn amrywio yn dibynnu ar eu hyfforddiant arbenigol a'u harbenigedd.

Peintwyr a phapurwyr: peintio ac addurno tu mewn a thu allan i dai, swyddfeydd ac adeiladau eraill. Maent hefyd yn peintio strwythurau awyr agored fel pontydd, llongau neu lwyfannau olew.

Plastrwyr: naill ai plastro waliau, nenfydau a lloriau yn llyfn; neu blastro ffibrog - gwneud gwaith plastro addurnol i'w ddefnyddio ar nenfydau adeiladau addurnol ac ati.

Plymwyr: darparu gwasanaeth hanfodol mewn tai a busnesau. Maent yn gosod a chynnal a chadw cyflenwadau dwr poeth ac oer mewn tai, a gweithio ar systemau aerdymheru ac echdynnu mewn adeiladau eraill.

Sgaffaldwyr: codi systemau drwy ddefnyddio tiwbiau metel, cysylltiadau, gosodiadau, unedau sydd wedi'u gwneud yn arbennig a llwyfannau pren neu fetel i bobl weithio arnynt.

Seiri Maen: defnyddio llawer o sgiliau i atgyweirio hen adeiladau a chreu rhai newydd, gan ddefnyddio offer modern a thraddodiadol. Gallwch ddewis arbenigo ym maes atgyweirio neu adeiladau newydd.

Technegwyr: gweithio ar lefel rhwng crefftwyr a rheolwyr. Efallai y byddant wedi'u lleoli ar safle adeiladu neu mewn swyddfa yn llunio cynlluniau ac amserlenni.

Teiliwyr waliau a lloriau: defnyddio teiliau lliw a graenog i addurno tu mewn i adeiladau. Mae'r gwaith yn amrywiol iawn - gallech fod yn gweithio ar ystafell ymolchi un diwrnod, neu'n hedfan dramor i osod teiliau ar waliau mewnol ffatri.

Yn ôl i'r brig

Peirianneg

Peirianwyr awyrofod: cynorthwyo i gynllunio, datblygu, profi a chynnal a chadw awyrennau esgyll sefydlog a thro sifil a milwrol, arfau a lloerennau.

Peirianwyr cemegol: cynorthwyo i newid deunyddiau crai yn gynhyrchion. Er enghraifft, wrth brosesu amgylcheddau maent yn datblygu deunyddiau crai yn gynhyrchion fel papur, cosmetigau, bwyd, cyffuriau, tecstiliau, tanwydd a metelau.

Peirianneg sifil - cymysgedd o wyddoniaeth, dychymyg a thechnoleg. Mae'n cynnwys meysydd fel adeiladu (adeiladu stadia chwaraeon neu ganolfannau siopa), trafnidiaeth (adeiladu rheilffyrdd, ffyrdd, pontydd ac astudiaethau trafnidiaeth) a phwer (datblygu cynlluniau hydro-electrig, argaeau, llwyfannau olew a phiblinellau.

Peirianwyr trydanol: cyflawni ymchwil, datblygu a gweithredu peiriannau a chyfarpar trydanol, systemau cyfathrebu, goleuo, gwres, ac oergelloedd ar gyfer swyddfeydd, ffatrïoedd a chartrefi.

Peirianwyr deunyddiau: cynllunio, datblygu a gwella deunyddiau fel metelau a cherameg. Maent yn datblygu a phrofi pethau, gan gynnwys deunyddiau strwythurol ar gyfer adeiladu a deunyddiau modurol ar gyfer ceir.

Peirianwyr mecanyddol: defnyddio'u sgiliau peirianneg i gynllunio, adeiladu a defnyddio amrywiaeth diddiwedd o beiriannau.

Yn ôl i'r brig

Technoleg Gwybodaeth

Dadansoddwyr busnes, dadansoddwyr systemau, ac ymgynghorwyr busnes: yn gymwys i amrywiaeth o bobl fusnes gyda gwybodaeth am TG (neu fel arall) sy'n gallu nodi meysydd busnes y gellid eu gwella trwy ddefnyddio TG.

Penseiri Systemau, Penseiri Gwybodaeth: pennu cysyniadau eang a chynlluniau cyffredinol datrysiad TG posib, neu gyfres o ddatrysiadau. Arwain y ffordd wrth bennu strategaeth TG cwmni.

Peirianwyr systemau, ymgynghorwyr technegol, ac arbenigwyr technegol: adeiladu datrysiadau TG o gydrannau safonol (h.y. cynhyrchion).

Datblygwyr meddalwedd, datblygwyr system, rhaglennwyr, datblygwyr gwe, a chynllunwyr meddalwedd, cynllunwyr rhwydwaith: mewn cwmnïau cynhyrchu mae'r bobl hyn yn cynllunio a datblygu'r cynhyrchion. Mewn cwmnïau gwasanaeth neu adrannau TG mewnol maent yn cynllunio a chreu meddalwedd sy'n benodol i ddefnyddwyr lle nad oes cynnyrch safonol yn briodol i'r datrysiad.

Technegwyr gwasanaeth, Arbenigwyr technegol, Arbenigwyr rhwydwaith: mae gweithwyr technegol yn parhau i weithio ar system ar ôl ei rhoi ar waith. Maent yn monitro rhwydweithiau, gweinyddwyr, cymwysiadau meddalwedd, gweithfannau a chysylltiadau rhyngrwyd a datrys problemau technegol.

Gweinyddwyr system: rheoli'r defnydd o systemau e.e. rhoi enwau defnyddiwr i ddefnyddwyr newydd, gweithredu system wrth gefn, rheoli cyrchfreintiau.

Gweithredwyr cyfrifiaduron, Arbenigwyr gweithredoedd, Gweithredwyr system, Llyfrgellwyr cyfryngau: gweithredu prif-gyfrifiaduron traddodiadol mewn canolfannau data. Mae gwybodaeth am y system gyfrifiadur yn bwysig, ynghyd â'r gallu i ddilyn prosesau gwaith.

Rheolwyr Darparu Gwasanaeth: cyfrifoldeb cyffredinol am effeithlonrwydd y gwasanaeth TG.

Cymorth technegol, Desg gymorth: mae'r swyddi hyn yn canolbwyntio ar y defnyddwyr yn hytrach na'r system. Maent yn gweithio ar-safle, neu ar y ffôn mewn canolfan alwadau, gan ddatrys problemau defnyddwyr.

Peirianwyr cynnal a chadw, peirianwyr symudol: gweithio ar eu pen eu hunain, o fewn cytundeb lefel gwasanaeth, ymweld â chwsmeriaid i atgyweirio cyfrifiaduron sydd wedi torri drwy newid y rhan sydd wedi torri (e.e. disg galed).

Ymgynghorwyr: rhoi (neu werthu) cyngor, ar sail eu meysydd arbenigol. Gallant gynghori neu gynorthwyo mewn unrhyw un o'r meysydd a ddisgrifir uchod.

Yn ôl i'r brig

 

 

 

 Cysylltu â ni