 |
 |
Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Gallech gael eich talu'n well...
Yn 2002/3, roedd 99% o'r bobl yn Lloegr a gychwynnodd ar brentisiaethau mewn peirianneg yn ddynion, a 97% o'r bobl a
gychwynnodd ar brentisiaethau mewn addysg a gofal blynyddoedd cynnar yn fenywod. Yn aml, mae menywod yn dueddol o
weithio mewn swyddi sy'n talu llai o gyflog na swyddi a gyflawnir yn draddodiadol gan ddynion. Ar gyfartaledd, telir
£12.88 yr awr i ddynion sy'n gweithio'n llawn amser, tra bo menywod ond yn derbyn £10.56 - 18% yn llai!
Dyma rai enghreifftiau o sut y mae cyflogau'n cymharu ym mhob gyrfa:
Gyrfa |
Newydd hyfforddi |
Profiadol |
Uwch |
Plymio |
£18,271 |
£21,391 |
£23,829 |
Technegydd peirianneg trydanol |
£12,000 |
£18,000 |
£30,000 |
Gweithredydd TG |
£12,000 |
£30,000 |
|
Rheolwr rhwydwaith TG |
£18,000 |
£40,000 |
|
Technegydd adeiladu |
Cychwyn ar £10,000 ac yn codi |
i £17,000 ar ôl ennill cymwysterau |
£20,000-£27,000 |
Gall cyfraddau cyflog fod yn uwch mewn ardaloedd gyda mwy o alw.
...am wneud yr hyn rydych chi'n caru ei wneud.
Mae gyrfaoedd ym maes peirianneg neu adeiladu yn rhoi cyfle i chi effeithio ar y byd rydyn ni'n byw ynddo, tra gall
plymio a thechnoleg gwybodaeth alluogi i chi wella'r ffordd rydyn ni'n byw. Beth bynnag, byddwch yn ennill gwybodaeth
ac arbenigedd ymarferol mewn maes y mae gennych ddiddordeb ynddo ac yn cael y cyfle i fod yn greadigol.
Byddwch yn wynebu heriau newydd bob dydd ac efallai y byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio'ch sgiliau ledled y byd.
Gan fod galw cyson am y math hwn o waith, mae'n debyg y bydd y gwaith yn ddiddiwedd. Ond mae mwy na hyn. Oherwydd y galw hwn,
mae'n debyg y byddwch yn cael lwfans hyfforddi all eich cynnal wrth i chi ddysgu eich crefft.
Hefyd, mae'r cymwysterau y byddwch yn eu hennill yn golygu y gallwch weithio'n hunan-gyflogedig. Bydd hyn yn rhoi'r
cyfle i chi fwynhau eich gwaith, heb esgeuluso eich bywyd.
|